We’ve invited all the local election candidates to complete this questionnaire so you know more about the people asking for your vote on the 4th of May. We’re also compiling a list of their websites and social media accounts so you can follow them and get in touch if you have any questions.
Follow @mycardiffnorthName – Sioned Treharne
Party – Plaid Cymru
Ward – Gabalfa
Website –
Twitter – @GabalfaVoice
Facebook – GabalfaVoice
How can people get in touch with you? – gabalfavoice@gmail.com
About You
Tell us about yourself
Born and raised in Cardiff, I have lived here for 24 out of the 25 years I have been on this planet! My alma mater was Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf in Llandaff North, and I went on to study Welsh and History at Cardiff University before completing a Masters degree in Modern British and European History at Jesus College, Oxford. I have been living in Gabalfa for two years, and I work as a Welsh-medium editorial officer at WJEC CBAC on Western Avenue. I recently became Co-chair of Plaid Ifanc, the youth wing of Plaid Cymru, which has made huge strides as a movement over the past 18 months. The importance of political education cannot be overstated, and Plaid Ifanc has been a vessel of political activism among young people in Wales in recent years. On those rare occasions when campaigning/activism don’t swallow my free time (…!), I’ll be found in one of the fine establishments on Whitchurch Road, either enjoying a coffee, a (vegetarian) burger or a devilish cocktail.
Cefais fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd, a heblaw am fyw i ffwrdd am flwyddyn pan oeddwn yn y coleg, rwyf wedi byw yma ar hyd fy oes. Derbyniais fy addysg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn Ystum Taf, a chefais radd mewn Cymraeg a Hanes o Brifysgol Caerdydd cyn cwblhau gradd Meistr yn Hanes Modern Prydain ac Ewrop yng Ngoleg Iesu, Rhydychen. Rwyf wedi byw yn Gabalfa ers dwy flynedd, ac rwy’n gweithio fel swyddog golygyddol cyfrwng Cymraeg yn CBAC, Rhodfa’r Gorllewin. Yn ddiweddar cefais fy ethol yn un o Gyd-gadeiryddion Plaid Ifanc, mudiad ieuenctid Plaid Cymru, sydd wedi gwneud cynnydd aruthrol dros y 18 mis diwethaf. Mae addysg wleidyddol yn hollbwysig, ac mae Plaid Ifanc wedi bod yn flaengar yn annog ei aelodau i ymgyrchu dros y blynyddoedd diweddar. Pan nad wyf yn ymgyrchu neu mewn rhyw ddigwyddiad gwleidyddol neu’i gilydd, byddwch yn dod o hyd i mi yn un o siopau/caffis Whitchurch Road, yn mwynhau coffi, byrgyr (llysieuol…!) neu goctêl drwg…!
What are the biggest issues in your ward?
Wedal Road recycling centre: given its proximity to the ward, it’s little wonder concerns over its future have been at the forefront of residents’ minds during this election campaign. My colleague, Gareth Holden, called in the initial decision by the Labour council to close the site in August 2015 and halted its closure. However, its future remains uncertain and residents across the ward have been vocal in their opposition to the proposed closure. Fly-tipping is already an issue on non-gated lanes; the number of instances would increase exponentially if the Wedal Road site were to close.
Roads are always high up on the agenda with residents on the doorstep. Traffic, congestion, speed awareness, lack of parking spaces, signage and public transport provision are all issues that require addressing after 4 May. We’ve spoken to a great many people who support the idea of implementing a 20mph scheme in the area – the Gabalfa Plaid team has pledged to prioritise the rollout of the scheme in the ward as soon as possible. People are understandably frustrated at the lack of parking spaces in the area, and while our streets were not designed to accommodate the number of cars on our roads, the situation in Gabalfa is dire. More could be done to alleviate parking problems for residents, and improving public transport services in the area would go a long way to reduce the volume of traffic on our streets.
Canolfan ailgylchu Wedal Road: oherwydd bod y safle hwn mor agos i’r ward, nid yw’n syndod bod pobl yn pryderu am ei ddyfodol, ac mae’r pryderon hyn wedi bod yn amlwg yn ystod yr ymgyrch. Bu Gareth Holden, fy nghyd-weithiwr, yn greiddiol i’r ymdrech i atal y cyngor Llafur rhag cau y safle nôl ym mis Awst 2015. Fodd bynnag, mae dyfodol y ganolfan ailgylchu yn ansicr unwaith eto, ac mae trigolion yr ardal wedi lleisio eu gwrthwynebiad i’r cynlluniau i’w chau. Mae tipio anghyfreithlon eisoes yn broblem ar hyd lonydd heb gatiau; byddai cynnydd mawr yn nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon pe bai safle Wedal Road yn cau.
Mae ffyrdd bob amser yn uchel ar yr agenda gyda thrigolion ar garreg yr aelwyd. Mae traffig, tagfeydd, ymwybyddiaeth o gyflymder, diffyg lleoedd parcio a darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus i gyd yn broblemau y bydd angen mynd i’r afael â nhw ar ôl 4 Mai. Rydym wedi siarad â nifer fawr o bobl sy’n cefnogi’r syniad o weithredu cynllun 20mya yn yr ardal – mae tîm Gabalfa Plaid wedi addo y bydd yn rhoi blaenoriaeth i gynllun o’r fath. Mae pobl yn rhwystredig nad oes digon o leoedd parcio ar gael yn ardal, ac er nad yw’n ffyrdd wedi’u dylunio i ymdopi â nifer y ceir sy’n teithio arnynt, mae’r sefyllfa yn Gabalfa yn hunllefus. Gallai problemau parcio trigolion gael eu lleihau, a byddai buddsoddi mewn mwy o ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal yn gwneud cryn dipyn i wella’r sefyllfa o ran tagfeydd yn lleol.
What’s your favourite place in Cardiff and why?
I was raised a stone’s throw from Roath Park Lake, so the Scott Memorial lighthouse is home for me. I have many fond memories of hurtling down the bank into the children’s play area on sledges in the snow; nursing aching thighs after an hour on a pedalo; and in more recent years, basking in post-exam sunshine with university friends. I’m also very fortunate in the view I have out of my office window, overlooking Pontcanna Fields – it makes for a glorious sunrise in winter. I love spending a rainy afternoon in the galleries of the National Museum in Cathays Park, and when the weather improves I’m always up for a trip to St Fagans National Museum of History – I must’ve been a hundred times by now!
Cefais my magu dafliad carreg i ffwrdd o lyn Parc y Rhath, felly Cofeb Scott yw ‘adref’ i mi. Mae gennyf atgofion melys o rasio lawr y bryn i mewn i’r maes chwarae ar sled yn yr eira; coesau wedi blino ar ôl treulio awr ar y pedalo; a mwynhau’r heulwen gyda fy ffrindiau prifysgol ar ôl gorffen yr arholiadau. Rwy’n ffodus iawn o’r olygfa sydd gennyf allan o’r ffenestr yn y gwaith – yn edrych dros gaeau Pontcanna. Rwyf wrth fy modd yn crwydro orielau’r Amgueddfa Genedlaethol ym Mharc Cathays ar brynhawn glawog, a phan fydd y tywydd yn braf rwyf bob amser ar dân i fynd am dro i Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru – rwyf wedi bod yno rhyw 100 o weithiau erbyn hyn, mae’n rhaid!
What do you think should be done to improve engagement in politics?
I was struck by a recent conversation with one resident on Llantarnam Road. She said, in all sincerity, “I don’t really understand politics.” However, she had said enough within our five-minute conversation to demonstrate she had a firm grasp of the issues affecting people in the area. There’s a widespread, fundamental distrust of ‘politics’ despite the fact that politics is unavoidable in our daily lives. Local activists need to communicate a message on the doorstep, namely that political engagement need only mean getting involved with local community groups or exercising your democratic right by voting. ‘Politics’ isn’t just the preserve of elected ministers and members; it’s for all of us to become active participants in our democratic processes. In this respect, encouraging political education among young people is key.
Gwaeth un sgwrs ddiweddar argraff arnaf. Roeddwn yn siarad â menyw ar Llantarnam Road a dywedodd, yn gwbl ddidwyll, “I don’t really understand politics.” Fodd bynnag, roedd hi wedi dweud digon yn ystod ein sgwrs fer i ddangos fod ganddi ddealltwriaeth gadarn o’r problemau sy’n wynebu’r trigolion yn yr ardal. Mae pobl yn ddrwgdybus o ‘wleidyddiaeth’ yn waelodol, er bod gwleidyddiaeth yn rhan annatod o’n bywydau o ddydd i ddydd. Mae angen i ymgyrchwyr lleol gyfathrebu neges ar garreg yr aelwyd; hynny yw, mai ymwneud â gwleidyddiaeth, yn syml, yw mynychu grwpiau cymunedol neu fynd i bleidleisio. Nid rhywbeth sy’n perthyn i weinidogion ac aelodau seneddol yn unig yw ‘gwleidyddiaeth’; mae’n ddyletswydd arnom, bob un, i gymryd rhan yn ein prosesau democrataidd. Yn hyn o beth, mae annog addysg wleidyddol ymhlith ein pobl ifanc yn allweddol.
What’s your favourite film?
The History Boys.
If You’re Elected
What will you do to improve your ward?
Improving roads – be it by addressing parking problems or reviewing the condition of road surfaces – would be high up on the agenda. Implementing a 20mph scheme in the area would also go a long way in increasing speed awareness and improving road safety in the area, and would therefore be a priority of mine. Even after significant changes, getting on to Gabalfa roundabout from Whitchurch Road remains difficult, so I would lobby for the current traffic-flow system to be revisited and reviewed.
Byddai gwella ffyrdd – boed drwy fynd i’r afael â phroblemau parcio neu drwy edrych ar gyflwr arwyneb y ffyrdd – yn uchel ar yr agenda. Byddai gweithredu cynllun 20mya hefyd yn gwneud gwahaniaeth o ran cynyddu ymwybyddiaeth o gyflymder a gwella diolgelwch ar ffyrdd yn yr ardal. Byddai cynllun o’r fath, felly, yn un o’m blaenoriaethau. Er bod newidiadau mawr wedi’u gwneud eisoes, mae mynd ymlaen i gyffordd Gabalfa yn anodd iawn o hyd, felly byddwn i’n ymgyrchu i sicrhau bod y system llif traffig bresennol yn cael ei hadolygu.
How will you communicate with residents in your ward?
Technology has facilitated easy communication at all hours of the day, but nothing beats face-to-face contact! Continued door-knocking, attendance at PACT meetings, regular surgeries and participation in community groups would ensure I keep my finger on the pulse with regards to issues faces by residents. I never have more than 3 unread emails in my inbox (!!) so rest assured I’d keep on top of communications via email and social media. It’s not always easy for residents to keep up to date with the latest information from the council; I’d therefore aim to summarise the main issues in regular bulletins, to be posted through letterboxes across the ward.
Mae technoleg fodern yn golygu bod cyfathrebu lawer yn haws y dyddiau hyn, ond does dim yn well na siarad yn uniongyrchol â’n gilydd! Byddwn i’n sicrhau fy mod yn gwybod am brif broblemau trigolion drwy barhau i gnocio drysau, mynychu cyfarfodydd PACT, cynnal cymorthfeydd rheolaidd a chymryd rhan mewn grwpiau cymunedol. Dim ond 3 neges e-bost heb ei darllen sydd gennyf yn fy mewnflwch ar unrhyw un adeg (!!) felly byddwn i’n sicr yn gallu cadw cofnod o’r holl gyfathrebiadau byddwn i’n eu derbyn dros e-bost neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Nid yw bob amser yn hawdd i drigolion gael gwybod am y wybodaeth ddiweddaraf o’r cyngor; byddwn i felly yn anelu i grynhoi’r prif faterion mewn bwletinau rheolaidd, i’w dosbarthu drwy flychau post ar draws y ward.
What issues that affect the whole city would you like to get involved in?
There has been a noticeable increase in homelessness in Cardiff over the past few years. I would certainly be eager to work with charities and organisations, and to participate in projects that help homeless people and that work to create opportunities to keep people off the streets. I would also like to see Cardiff lead the way by being an eco-friendly, green and sustainable city. I believe political education is very important, and would therefore like to get involved with initiatives designed to increase political awareness and engagement.
Rydym wedi gweld cynnydd mawr mewn digartrefedd yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd diwethaf. Byddwn i felly yn awyddus i weithio ar y cyd ag elusennau a sefydliadau, ac i gymryd rhan mewn projectau sy’n cynorthwyo pobl ddigartref ac sy’n gweithio i greu cyfleoedd i sicrhau nad yw pobl yn gorfod byw ar y stryd. Rwyf hefyd yn awyddus bod Caerdydd yn arwain y ffordd drwy fod yn ddinas sy’n eco-gyfeillgar, gwyrdd a chynaliadwy. Rwy’n credu bod addysg wleidyddol yn hynod o bwysig, felly hoffwn ymwneud â phrojectau sy’n cynyddu ymwybyddiaeth wleidyddol ymhlith ein trigolion.
Final Comments
What would you change about Cardiff and why?
Unless Cardiff’s infrastructure sees drastic improvement over the next few years, I’m afraid it could miss out on fantastic opportunities to host important events due to the city’s inability to cope with large numbers of visitors. Our roads are congested and pollution is an increasing problem. If Cardiff is to become a clean, eco-friendly city, improvements must be made to our public transport system. I would also like to see the Welsh language become more visible within our capital city. Cardiff must lead the way and promote the Welsh language wherever possible. As the Welsh proverb goes, “Nid da lle gellir gwell”!
Os nad oes gwelliant arwyddocaol yn isadeiledd Caerdydd dros y blynyddoedd nesaf, rwy’n pryderu y gallai’r ddinas golli cyfleoedd i gynnal digwyddiadau pwysig gan nad oes ganddi’r gallu i ymdopi â nifer mawr o ymwelwyr. Mae tagfeydd ar ein ffyrdd ac mae problem llygredd yn gwaethygu. Os yw Caerdydd yn mynd i wireddu ei photensial fel dinas lân ac eco-gyfeillgar, rhaid i system trafnidiaeth gyhoeddus y ddinas gael ei gwella ar fyrder. Byddwn i hefyd yn hoffi gweld mwy o Gymraeg ar hyd a lled y ddinas. Rhaid i Gaerdydd, y brifddinas, fod yn flaengar o ran hyrwyddo’r iaith Gymraeg a chymryd pob cyfle i wneud hynny. Nid da lle gellir gwell!
Any final comments?
Elections tend to focus on the negative aspects and problems within a community. I’d like to stress, therefore, that I love living in Gabalfa. I’ve thoroughly enjoyed meeting many of my neighbours over the past few months – it just goes to show how much you can learn about the different needs of different people within your community by means of a five-minute conversation. I’m aware that some residents may not be able to enjoy all that which Gabalfa as an area has to offer. I would therefore, as your councillor, do my best to ensure Gabalfa caters for the needs of all those who live and work here.
Mae etholiadau yn tueddu i ganolbwyntio ar yr agweddau negatif a’r problemau sydd gan gymuned. Hoffwn i bwysleisio, felly, fy mod i wrth fy modd yn byw yn Gabalfa. Rwyf wedi cael modd i fyw yn cwrdd â nifer o’m cymdogion dros y misoedd diwethaf – mae’n dangos, wir, faint gallwch chi ei ddysgu am amrywiol anghenion y bobl wahanol sy’n byw yn eich cymuned, a hynny o fewn sgwrs pum munud. Rwy’n ymwybodol nad yw pawb sy’n byw yn Gabalfa yn gallu cymryd mantais o’r hyn oll sydd gan yr ardal i’w gynnig. Byddwn i, fel eich cynghorydd, yn gwneud fy ngorau i sicrhau bod anghenion pawb sy’n byw ac yn gweithio yn Gabalfa yn cael eu hystyried a’u diwallu.