Steffan Webb

Steffan
FB-f-Logo__blue_1024TwitterLogo_[1]Email

Steffan

Read our Q&A with Steffan

Biography

Steffan Webb dwi. Dwi’n dod o Gaerdydd yn wreiddiol ac wedi byw yng Ngogledd Caerdydd ers pedwar deg o flynyddoedd yn Rhiwbeina, Yr Eglwys Newydd, Thornhill, Llaneirwg ac Ystum Taf. Mae pedwar o blant gyda fi a dau bwynt pump o wyresau. Dwi wedi gweithio ym maes datblygu cymunedol ac addysg gymunedol hyd at 2016. Dwi wedi datblygu cyfres o fentrau iaith gan weithio i rai a gwirfoddoli gydag eraill. Dwi’n mwynhau gwneud gwaith gwirfoddol yn y gymuned. Dwi wedi gwneud gwaith gyda Chynghorau Gwirfoddol Sirol Cymru, a’u systemau grantiau bach, er mwyn datblygu mudiadau eraill. Dwi wedi hyfforddi fel athro ac wedi dysgu Cymraeg i Oedolion yn ogystal a dysgu hanes yn Ysgol Gymraeg Glantaf. Dwi’n dilyn cwrs cyfieithu ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd gan wneud gwaith gwirfoddol i nifer o elusennau. Dwi wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn fy hunan. Dwi wedi arwain Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar wahanol lefelau a chefnogi ymgyrchoedd ymwybyddiaeth YesCymru. Safais fel Cynghorydd am y tro cyntaf ym mis Mai a llwyddo i dreblu plaidlais Plaid Cymru yn Ystum Taf. Dwi eisiau gwneud gwahaniaeth ymarferol i bobl Gogledd Caerdydd ac yn gobeithio gwneud hynny trwy’r etholiad yma. Dwi ar gael trwy llaisystumtaf@gmail.com a @plaidystumtaf ar drydar.

My name is Steffan Webb. Born and bred in Cardiff, I have lived in Cardiff North for forty years in Rhiwbeina, Whitchurch, Thornhill, St Mellons and Llandaff North. I have four children and two point five grand-daughters. I worked in community development and community education until 2016. I helped develop the Mentrau Iaith, series of Language Initiatives, by working with some and volunteering with others. I do enjoy voluntary work in the community and have worked with County Voluntary Associations, and their small grants systems, to develop new groups. I am a qualified teacher teaching Welsh for Adults and History at Ysgol Gymraeg Glantaf. I am doing a translation course at the University of Aberystwyth and using the skills learnt with a number of charities. I learnt Welsh as an adult. I have led the Welsh Language Society, on a number of levels, and I support the discussions of YesCymru. I stood in the Council election in May which was my first ever election and trebled the vote for Plaid Cymru in Llandaff North. I do want to make a practical difference to the people of North Cardiff and hope to do that through this election. I am available at llaisystumtaf@gmail.com and @plaidystumtaf on Twitter.